Bwncath
Gigs Haf 2020
Helo! Yn amlwg, oherwydd COVID-19, roedd rhaid i ni ganslo pob gig o ganol fis Mawrth am gyfnod amhenodol. Roedd hyn yn golygu fod yr ail albwm, Bwncath II, yn cael ei rhyddhau yn ystod y 'lockdown'. Rydym wedi bod yn brysur yn ail-drefnu unrhyw gig preifat (priodasau ac ati) a gwyliau ar draws y wlad er mwyn sicrhau ein bod ni ar gael flwyddyn nesaf - ac yn edrych 'mlaen at hynny'n barod!
Mae'n amlwg yn siomedig nad ydi hi'n bosib i ni berfformio'r caneuon newydd yma yn fyw, ond, cafodd fideos arbennig ei rhyddhau ar-lein! Felly, ar ein sianel YouTube mae 'na fersiynau hunan-ynysu o ambell gân! Gobeithio newch chi fwynhau!
Edrych ymlaen at 2021! X
