top of page
Albwm%25202%2520Cover_edited_edited.jpg
Home: Welcome

AMDANOM NI  ABOUT US

Ffurfiwyd yn 2014 yn ardal Caernarfon. Rhyddhawyd ein albwm gyntaf, Bwncath, yn haf 2017 a daeth yr albwm ddiweddaraf, Bwncath II, allan ym mis Mawrth 2020.

Cafodd yr albwm gyntaf ei chynhyrchu gan Robin Llwyd - a fo ac Elidyr wnaeth recordio bron â bod popeth sydd arni.

Yn 2019, cafwyd ymateb gwych i’r ddwy sengl sef ‘Clywed Dy Lais’, a’r gân fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, ‘Fel Hyn ‘Da Ni Fod’, a’i pherfformio fel band yn yr Ŵyl Ban Geltaidd. Yn ogystal â hyn, rhyddhawyd fideo arbennig (wedi’i animeiddio gan Lleucu Non) i’r gân ‘Dos Yn Dy Flaen’ i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2020, a chyrhaeddodd y dair cân y Clwb Can Mil o ffrydiau ar Spotify.

Recordiwyd yr albwm ‘II’ yn Stiwdio Sain ac mae’r band yn gigio’n rheolaidd. Cynhyrchwyd ‘II’ gan Robin Llwyd a dylunwyd y gwaith celf gan Elidyr Glyn.

Formed in 2014 in the Caernarfon area. The first album, Bwncath, was released in the summer of 2017 and the most recent album, Bwncath II, in March 2020.

The first album was produced by Robin Llwyd - and almost everything on it was recorded by him and Elidyr. 

In 2019, we had a great reaction to the singles 'Clywed Dy Lais' and the winner of the Cân i Gymru (Song for Wales) competition, 'Fel Hyn 'Da Ni Fod' and performing it at the Pan Celtic Festival. Additionally, a special video (animated by Lleucu Non) to the song 'Dos Yn Dy Flaen' was released to celebrate Welsh Language Music Day 2020, and the 3 songs reached 100,000 streams on Spotify.

The album Bwncath II was recorded at Sain Studios and the band are gigging regularly together. It was produced by Robin Llwyd and the artwork was designed by Elidyr Glyn.

Home: Bio
Home: Videos

CYSYLLTU  CONTACT

  • YouTube
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram

Thanks for submitting!

60038419_2365234003748447_3904987443798999040_o%20(1)_edited.jpg
Home: Contact
bottom of page